Session 11: Article

Mae James Keir Hardie yn cael ei gofio fel arweinydd cyntaf y Blaid Lafur

        James Keir Hardie is remembered as the first leader of the Labour Party

Yn wreiddiol o`r Alban, fe gafodd e gysylltiad agos â de Cymru

         Originally from Scotland, he had a close connection with south Wales

Roedd e`n Aelod Seneddol dros Ferthyr Tudful

         He was the Member of Parliament for Merthyr Tydfil

Dechreuodd Keir Hardie weithio fel glöwr pan oedd un ar ddeg oed, gan dreulio deuddeg awr y dydd i lawr yn y pwll

         Keir Hardie started working as a miner when he was eleven, spending twelve hours a day down the mine

Dysgodd ei hun i ddarllen ac ysgrifennu

         He taught himself to read and write

Dechreuodd ei yrfa mewn gwleidyddiaeth gan sefydlu undeb gweithwyr yn ei bwll glo

         He began his career in politics by establishing a workers` union in his coal mine

Roedd gweithwyr yn ceisio gwella eu cyflog a`u hamodau gwaith

         Workers were trying to improve their wages and working conditions

Ym 1881 arweiniodd streic y glowyr cyntaf, a chafodd ei ddiswyddo o ganlyniad

         In 1881 he led the first miners` strike, and was dismissed as a result

Etholwyd Keir Hardie yn Aelod Seneddol West Ham yn Llundain ym 1892

         Keir Hardie was elected Member of Parliament for West Ham in London in 1892

Ymladdodd dros hawliau menywod, addysg am ddim, pensiynau, a hunanreolaeth i India

         He fought for women`s rights, free education, pensions, and self-rule for India

Collodd ei sedd yn yr etholiad nesaf, ond cafodd ei ailethol yn Aelod Seneddol Merthyr Tudful ym 1900

         He lost his seat at the next election, but was re-elected Member of Parliament for Merthyr Tydfil in 1900

Etholwyd Keir Hardie fel arweinydd y Blaid Lafur newydd wedi ei ffurfio yn Nhŷ’r Cyffredin

         Keir Hardie was elected as leader of the newly formed Labour Party in the House of Commons

Erbyn 1910, roedd pedwar deg o Aelodau Llafur wedi`u hethol i`r Senedd

         By 1910, forty Labour Members had been elected to Parliament

Arweiniodd Hardie brotest yn Nhŷ’r Cyffredin yn erbyn triniaeth greulon swffragetiaid yng Ngharchar Holloway

         Hardie led a protest in the House of Commons against the cruel treatment of suffragettes at Holloway Prison

Ar ddechrau`r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Keir Hardie yn heddychwr brwd

         At the start of the First World War, Keir Hardie was a fervent pacifist

Parhaodd y Blaid Lafur gyda gwaith Kier Hardie , gan gefnogi hawliau gweithwyr yn y pyllau glo, ffatrioedd a diwydiannau eraill

         The Labour Party continued with the work of Kier Hardie, supporting the rights of workers in the coal mines, factories and other industries